Ar ddiwedd Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu, bydd yr RSPB yn cynnal gweithgaredd adeiladu blychau nythu ar gyfer y teulu cyfan yn Llyn Brenig dydd Llun, 21 Chwefror 2022 10am a 4pm. Dewch draw i greu cartrefi ar gyfer adar Prydain.
Bydd staff gwybodus yr RSPB yn eich helpu chi i adeiladu blwch nythu ac yn eich cynghori ble i’w osod.
Ni fydd tâl am y gweithgaredd ond croesewir cyfraniadau.
Rhannwch eich campweithiau â ni! #llynbrenig a byddwn ni’n eu rhannu ar ein tudalen.