Iechyd, Lles a

Hamdden

yn Llyn Brenig

Mae mynediad i Lyn Brenig am ddim

Gan Dŵr Cymru

Am Llyn Brenig


Mae mynediad am ddim ac rydyn ni’n agored trwy’r flwyddyn. Mwynhewch ein tir gwyrdd a dŵr glas lle mae pellter cymdeithasol yn naturiol.

Hyb ar gyfer iechyd, lles a hamdden ydyn ni yng ngofal Dŵr Cymru. Lle gwych i ddianc rhag y dorf, ac â digonedd o le i bawb, gallwch anadlu awyr iach Cymreig yn ddwfn i’r enaid wrth gerdded, beicio, cael picnic, pysgota, bwyta, yfed ac edmygu’r golygfeydd.

Ein Stori


Rydw i wrth fy modd ar y lle yma. Cymaint lefydd hyfryd i fynd am dro. Lle bendigedig i dreulio amser fel teulu.

Mummy Fever

Cronfa rheoleiddio afon yw Llyn Brenig a gwblhawyd ym 1976. Mae’n cyfoethogi llif Afon Dyfrdwy yn yr haf, ac yn darparu dŵr gwerthfawr ar gyfer aelwydydd a busnesau yn y gogledd-ddwyrain.

Adeiladwyd y Ganolfan Ymwelwyr gan Ddŵr Cymru, sy’n gwmni dŵr nid-er-elw.

Nid oes cyfranddeiliaid gan Ddŵr Cymru, felly mae pob un geiniog a wnawn yn mynd yn syth ôl i gadw biliau’n isel a gofalu am eich dŵr a’ch amgylchedd prydferth – nawr, ac am flynyddoedd mawr i ddod. Rydyn ni’n credu ei bod hi’n ffordd well o lawer o wneud pethau.

Rydyn ni’n gweithio’n galed bob amser i wella a chyfoethogi eich profiad fel ymwelwyr, ac mae cynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer y dyfodol.

Uchafbwyntiau Eraill


Chwaraeon Dŵr

Yn Llyn Brenig rydyn ni’n cynnig Canŵio, Caiacio a Sorbiau Dŵr (dychmygwch bêl bochdew mawr ar y dŵr) i’r rhai sy’n mwynhau antur. Y llyn yw’r lle perffaith i hwylio gyda’i ddŵr croyw a heb lanw. Rydyn ni 1200 troedfedd uwch lefel y môr felly mae hi’n gallu bod yn wyntog! Mae’r clwb hwylio bob amser yn croesawu aelodau newydd ac mae amrywiaeth eang o gychod a hyfforddiant ar gael.

• MWY •

Walking

Mae’r llwybrau’n amrywio o daith fer o amgylch yr argae i daith gylchol 4 awr o amgylch Llyn Brenig i gyd. Beth bynnag yw’ch dewis, mae’r golygfeydd yn hynod. I’r dwyrain fe welwch fryniau Clwyd, a gallwch hyd yn oed weld y môr tua Phrestatyn a Gronant ar ddiwrnod clir. Dim ots a chi’n chwilio am heic a hanner neu dro bach gyda bygi, estynnwch eich cam, anadlwch yn ddwfn a mwynhewch y daith.

• MWY •

Y Ganolfan Ymwelwyr

Y Ganolfan Ymwelwyr yw’r lle gorau i ddechrau’ch ymweliad. Bydd yna groeso cynnes a phaned poeth bob tro. Nid yw’r un ymweliad yn gyflawn heb baned a rhywbeth i’w fwyta yn ein caffi. Yma cewch ymlacio, dal eich gwynt a mwynhau’r golygfeydd godidog dros y dŵr . Gwyliwch yr adar yn hedfan yn eu cynefin o’r balconi neu trwy’r ffenestri helaeth.

• MWY •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU